#

Papur briffio ynghylch deiseb
Y Pwyllgor Deisebau | DD MM 2016 
 Petitions Committee | DD MM 2016
 

 

 

 


Rhif y ddeiseb: P-04-687

Teitl y ddeiseb: Adolygiad o Bysgota Cregyn Bylchog ym Mae Ceredigion

Testun y Ddeiseb: Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal treillio am gregyn bylchog ym Mae Ceredigion a sicrhau bod y dolffiniaid a'r llamhidyddion sy'n sefydlog yno yn cael eu diogelu yn awr ac yn y dyfodol.

Cefndir

Yn hanesyddol bu Bae Ceredigion yn gartref i bysgodfa sy'n treillio am gregyn bylchog. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf cyfyngwyd ar weithgarwch y bysgodfa hon oherwydd pryderon (a amlinellir yn y cyflwyniad i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru) ynghylch effaith treillio ar nodweddion gwely'r môr o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion. Mae Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion yn safle cadwraeth forol a ddynodwyd o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewropeaidd, oherwydd ei phwysigrwydd i ddolffiniaid trwynbwl, morloi llwyd yr Iwerydd, llysywod pendwll yr afon a'r môr, riffiau, banciau tywod ac ogofâu môr. O dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, mae'n ofynnol ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i atal difrod i safleoedd gwarchodedig.

Arweiniodd cynnydd mawr mewn pysgota am gregyn bylchog yn 2008 at nifer o gwynion bod treillio am gregyn bylchog yn anghydnaws â nodweddion yr Ardal Cadwraeth Arbennig, gan effeithio'n negyddol ar y nodweddion rîff cwrel ac ar organebau sy'n byw ar wely'r môr sy'n cael eu bwyta gan ddolffiniaid. O ganlyniad i'r pryderon hyn, cafodd môr tiriogaethol Cymru ei gau ar gyfer treillio am gregyn bylchog yn 2009 gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig ar y pryd, Elin Jones. O dan ddeddfwriaeth newydd yn 2010, (Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010) cafodd pysgodfa gyfyngedig ei chyflwyno mewn rhan fechan o Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion ar sail dymhorol rhwng 1 Tachwedd a 30 Ebrill. Caiff yr ardal fach hon ei hadnabod yn 'Kaiser Box'.

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Rhwng mis Tachwedd 2015 a mis Chwefror 2016 cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar 'Fesurau Rheoli Newydd Arfaethedig ar gyfer y Bysgodfa Cregyn Bylchog ym Mae Ceredigion'. Ceisiodd yr ymgynghoriad farn ar ganiatáu pysgota am gregyn bylchog mewn ardal mwy o faint yn Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion. Byddai hyn yn cynnwys yr ardal fechan gyfredol ynghyd ag ardaloedd eraill rhwng tair a 12 milltir forol oddi ar yr arfordir. 

Mae'r cynnig hwn yn seiliedig ar ganlyniad rhaglen ymchwil gan Brifysgol Bangor dros gyfnod o ddwy flynedd yn Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion. Bu'r gwaith ymchwil yn ystyried y newidiadau y byddai treillio mewn rhai rhannau o'r Ardal Cadwraeth Arbennig yn eu hachosi i'r gymuned anifeiliaid ar wely'r môr, yr effaith mae treillio yn ei chael ar wely'r môr a pha mor gyflym y gwellodd y gymuned anifeiliaid a gwely'r môr ar ôl cael eu difrodi. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae tystiolaeth o'r astudiaeth yn cefnogi pysgodfa a reolir yn y rhan o'r Ardal Cadwraeth Arbennig sydd ar gau i bysgota ar hyn o bryd.

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gynnig i ymestyn y bysgodfa cregyn bylchog ym Mae Ceredigion drwy:

§    Gyflwyno cynllun trwyddedau cregyn bylchog i ddod i rym ar 1 Tachwedd 2016, gydag amodau ynghlwm y gellid codi ffi amdanynt. Byddai'r cynllun trwyddedau yn berthnasol i Fae Ceredigion yn unig yn y parth 3-12 milltir fôr.

§    Cyhoeddi pob trwydded yn flynyddol i dalu am y tymor cregyn bylchog perthnasol.

§    Gosod ffi am bob trwydded.

§    Sefydlu bwrdd rheoli ymgynghorol anstatudol i gynorthwyo Llywodraeth Cymru wrth oruchwylio'r bysgodfa cregyn bylchog ym Mae Ceredigion.

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am bob un o'r pwyntiau uchod yn y ddogfen ymgynghori. Mae'r cynigion yn ymwneud â newidiadau posibl i'r tymor pysgodfeydd a fyddai'n dechrau, fel arfer, ar 1 Tachwedd 2016. Nid oes amserlen ynghylch penderfynu ar y mater wedi cael ei chyhoeddi. 

Yn ogystal ag ymgynghori â rhanddeiliaid, bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru, os bydd yn penderfynu bwrw ymlaen, ymgymryd ag Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Bydd angen iddo asesu'n fanwl unrhyw effeithiau posibl y gallai'r cynigion eu cael ar nodweddion dynodedig yr Ardal Cadwraeth Arbennig. 

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae'r mater o dreillio am gregyn bylchog ym Mae Ceredigion wedi cael ei godi sawl gwaith mewn cwestiynau llafar ac ysgrifenedig. Yn fwyaf diweddar, ym mis Ionawr 2016, gofynnodd nifer o Aelodau gwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar y pryd, Carl Sargeant. Mynegodd yr Aelodau bryder ynghylch yr angen i gydbwyso diwydiant pysgota proffidiol gydag amddiffyn cynefinoedd lleol, a hefyd am yr effeithiau ar forfilod a dolffiniaid, a thwristiaeth gysylltiedig. Wrth ymateb, dywedodd y Gweinidog ar y pryd, unwaith eto, mai ymatebion i'r ymgynghoriad a fyddai'n llywio penderfyniadau polisi a chamau gweithredu'r dyfodol, ar y cyd â chanfyddiadau ac argymhellion ymchwil Prifysgol Bangor.

Ym mis Mawrth 2016, wrth ymateb i lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar y pryd, William Powell AC, am y ddeiseb hon, amlinellodd Carl Sergeant rwymedigaethau statudol Llywodraeth Cymru o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Aeth ati hefyd i ailadrodd cynnwys yr ymgynghoriad. Ar ben hynny, dywedodd:

I consider the negative media representations published have misrepresented our proposals for scallop fishing. This did not properly reflect the true nature of the proposals to consider the flexible management of the fishery for future generations.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.